
BYWGRAFFIAD
Yn wreiddiol o Cross Hands yn Sir Gâr, rwyf bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn aelod o Arlunwyr yr Hen Lyfrgell Cyf; cwmni cydweithredol sydd wedi’i seilio yn Nhreganna.
Mynychais Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin, gweithiais fel athro am nifer o flynyddoedd cyn sefydlu fy hun fel artist llawn amser ym 1990. Trwy ddefnyddio ystod eang o gyfryngau, rwyf wedi datblygu arddull egnïol a chyffrous. Sbardunir fy ngwaith gan symudiad, patrwm a llinell, ond dweud stori a thirwedd yw prif sylfaen fy ngweledigaeth
Rwyf hefyd yn cael fy nghydnabod fel darlunydd poblogaidd ac mae fy nelweddau i’w gweld mewn llyfrau rhai o feirdd ac awduron amlycaf Cymru.