Owen Williams.
BYWGRAFFIAD Cefais fy magu ar fferm fynydd yn Sir Aberteifi, a taniodd diddordeb cynnar mewn pysgota a saethu ddiddordeb pellach yn y bywyd gwyllt a’r dirwedd o amgylch fy nghartref ger Aberystwyth. Cefais f’ysbrydoli gan gelf Syr Peter Scott a Charles Tunnicliffe, a dechreuais dynnu lluniau a phaentio adar pan oeddwn yn ddeuddeg oed. Penderfynais baentio mewn dyfrlliw, er ei fod yn gyfrwng heriol, oherwydd rwy’n hoffi’r ffordd y mae’n cyfleu awyrgylch mewn elfennau o’m gwaith fel awyr a dŵr.Read More→