D. A. W.

BYWGRAFFIAD

Rwy’n berson brwd, hunanaddysgiedig sydd wedi astudio gweithgareddau creadigol ar hyd fy oes. Pan ddarganfyddais arllwys acrylig yn y blynyddoedd diwethaf, teimlais gemeg go iawn . Rwy’n defnyddio’r gair cemeg yn fwriadol, gan fod arllwys acrylig yn gallu bod yn debyg i gemeg a choginio o ran sut mae’r dechneg rysáit, paratoi ac arllwys (a hyd yn oed y tymheredd) yn effeithio’n ddramatig ar y canlyniad. Roedd yn rhaid i mi ail-sefyll dosbarth cemeg unwaith, felly rwy’n siwr y byddai fy niddordeb yn hyn yn syndod i fy narlithydd

Darganfûm fod arllwys acrylig yn broses a chyfuniad hyfryd o organig a phur. Cynigiodd hyn y rhyddid creadigol yr oeddwn ei angen ar gyfer mynegi fy nghariad at liwiau a’u rhyngweithiadau. Mae’n genre lle gall y dywediad  “mynd gyda’r llif”  fod yn eithaf llythrennol. 

Fel llawer o artistiaid sy’n byw yn Aberystwyth a’r cyffiniau, rwy’n cael fy ysbrydoli gan ein hamgylchedd prydferth, a hefyd gan y nifer o gyfuniadau lliw rhyfeddol a swynol sydd i’w cael ar hyd a lled ein planed, yn enwedig yn y byd naturiol, mewn graddfeydd sy’n amrywio o ficro i facro i enfawr! Yn aml adlewyrchir natur yn fwy llythrennol pan fydd fy arllwysiadau yn cymryd naws ddaearegol, ddaearyddol neu fiolegol.

Fodd bynnag, pan ddaw at y fersiwn terfynol, teimlaf y gellir ennill cymaint o lawenydd – efallai mwy – oherwydd dehongliad y gwyliwr ei hun. Wedi’r cyfan mae celf yn ymwneud â sut mae’n gwneud i’r gwyliwr deimlo. 

Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau fy math i o baentiadau arllwys!