
BYWGRAFFIAD
Rwy’n artist o Fachynlleth sy’n creu gwaith argraffu yn defnyddio arddull colagraff a leino. Mae’r gyfres hon yn seiliedig ar y tirwedd o’m cwmpas ym Mro Ddyfi. Mae’r gwaith yn deillio o fy ngwerthfawrogiad o’r ffordd o fyw yng nghefn gwlad, traddodiadau, iaith, diwylliant Cymreig a phrydferthwch y tirwedd o’m cwmpas, sy’n rhan annatod o fy mywyd.