Agorodd Oriel y Bont ei ddrysau yn 2002, ac mae wedi sefydlu ei hun fel un o’r orielau celf mwyaf llwyddiannus, os nad y fwyaf llwyddiannus oll yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r oriel yn hyrwyddo mwy na deugain o artistiaid, yn amrywio o newydd-ddyfodiaid ifanc cyffrous i’r rhai sefydledig, llwyddiannus ac enwog.
Mae’n busnes celf yn seiliedig ar sylfaen ddiwylliannol gref yng Nghymru ac mae’n achos balchder mawr ein bod yn cael y pleser o hyrwyddo a chefnogi artistiaid Cymraeg yn ogystal â’r artistiaid hynny sy’n byw yng Nghymru. Mae’n hartistiaid yn amrywio yn eu harddulliau a’u pynciau, ond yn rhannu gwreiddiau a chysylltiadau Cymreig cryf.
Mae’r oriel wedi’i lleoli ym mlaen adeilad Fictoraidd ym mhen uchaf Heol y Bont yn nhref Aberystwyth gyda gweithdy fframio pwrpasol yn y cefn. Yno mae Anthony yn creu’r fframiau ceinaf ar gyfer pob achlysur. Rydym yn cynnig ystod o brintiadau, fframiau parod a hyd yn oed cornel liwio ar gyfer y ‘bobl bach’ tra gall rhieni a chwsmeriaid gymryd amser i edrych, edmygu ac ymgolli mewn enghreifftiau gwych o gelf gyfoes Gymraeg.