BYWGRAFFIAD
Rwy’n enedigol o Lanrhystud, Ceredigion, ac astudiais gelf yng Nghaerdydd, Bryste a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Bum yn athro Celf yn Buxton, Ystradgynlais ac Aberystwyth cyn gweithio fel Swyddog Addysg Celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enillais Goron Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ym 1986. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o fy eiddo gan Y Lolfa – ANNWYL ARHOLWR ac ABER. Rwy’n byw yn Nhremadog, Gwynedd.
Datblygodd fy ngwaith o seiliau tirluniol, lled-haniaethol i ddelweddau haniaethol gweadol pur. Rwyf wedi arddangos yn eang yng Nghymru gan gynnwys Oriel Albany, Caerdydd; MOMA, Machynlleth; Festival Interceltique, L’Orient, Llydaw; Oriel Waterfront, Aberdaugleddau; Canolfan Dylan Thomas, Abertawe; Crefft yn y Bae, Caerdydd ac Oriel Rob Piercy, Porthmadog.
Mae fy ngwaith i’w weld yn gyson yn Oriel Kooywood, Caerdydd; Oriel Tonnau, Pwllheli; Oriel Y Castell, Cricieth ac Oriel y Bont, Aberystwyth.
Rwy’n fardd haiku hefyd. Gallwch ddarllen rhai o fy haiku yn Another Country/Blodeugerdd o Haiku o Gymru. Gwasg Gomer, 2011. Cyhoeddwyd casgliad o fy haiku a senryu ‘clymau tywod/knots of sand’ gan Alba Publishing, 2017.