
BYWGRAFFIAD
Fe’m ganed yn Aberystwyth ym 1964, a’m magu ym mhentref cyfagos Cefnllwyd. Astudiais yng Ngholegau Caerfyrddin a Chaerdydd lle graddiais mewn Celfyddyd Gain gan arbenigo mewn argraffu. Er mai printio yw fy mhrif weithgarwch, rwyf wedi ehangu fy sgiliau i gynnwys dylunio, darlunio, murluniau ac addysg ran-amser. Yn 2015 cwblheais gwrs ôl-radd mewn Celfyddyd Gain yn yr Ysgol Gelf, Prifysgol Cymru Aberystwyth